GWYBODAETH AM JAYNE

Rydw i ar gael i helpu trigolion yng Ngorllewin Casnewydd gyda materion addysg, yr amgylchedd, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, trafnidiaeth, a materion lleol eraill.

GWYBODAETH AM JAYNE

Mae Jayne yn falch o’i gwreiddiau yng Nghasnewydd. Cafodd ei geni yn Ysbyty Brenhinol Gwent, ac aeth i’r ysgol yn Ysgol Gyfun Sant Julian cyn mynychu Prifysgol Keele. Mae wedi gweithio yng Nghasnewydd, Caerdydd, y Rhondda, Llundain ac Awstralia. Am naw mlynedd, bu Jayne yn arwain tĂ®m o chwech yn swyddfa Paul Flynn AS, yn datrys problemau teuluol, cymdeithasol a gwleidyddol amrywiol.

Cafodd Jayne ei hethol yn AC Gorllewin Casnewydd ar 5 Mai 2016.

Dywed Jayne:

Mae cyfleoedd cyffrous o’n blaenau ar gyfer ein dinas. Rwyf am wneud i Gasnewydd, wedi’i hadfywio, dyfu a ffynnu. Casnewydd lle mae pobl yn falch o fyw, gweithio, ac ymweld. Casnewydd sydd wedi bod yn gyntaf i mi bob amser, ac felly y bydd. Byddaf yn gweithio’n galed i ennill eich ymddiriedaeth a bod yn llais cryf dros ein cymuned yn y Cynulliad.

Rwy’n gefnogwr rygbi brwd, ac yn gefnogwr ffyddlon i Glwb Rygbi Casnewydd a Dreigiau Casnewydd Gwent. Fel deiliad tocyn tymor, efallai y byddwch yn fy nghlywed yn bloeddio o Eisteddle Hazell! Rwyf hefyd yn mwynhau gwylio Sir Casnewydd ac rwyf yn aelod o Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Sir Casnewydd, ac yn Ymddiriedolwr. Er mai gwylio chwaraeon rwyf yn ei wneud ar y cyfan, rwy’n aelod o Casnewydd Fyw ac yn defnyddio’r cyfleusterau yn y Pentref Chwaraeon a’r Ganolfan Hamdden.

Dyma ychydig o fy mlaenoriaethau yn y Senedd:

Amddiffyn ein GIG

Fel merch i fydwraig, rwyf wedi fy magu’n gwerthfawrogi gwaith staff y GIG, ac yn credu yng ngwerthoedd Gwasanaeth Iechyd sydd yno i bob un ohonom pan fydd ei angen arnom.

Rwy’n falch o’r buddsoddiadau mae Llafur Cymru wedi’u gwneud yn ein GIG, gan gyflogi mwy o staff rheng flaen nag erioed o’r blaen a gwario ÂŁ120 yn fwy y pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol gyda’i gilydd nag yn Lloegr. Yn wahanol i’r gwasanaeth iechyd yn Lloegr o dan y TorĂŻaid, ni fu gwaith ad-drefnu drud o’r brig i’r bĂ´n o dan Lafur yng Nghymru, na streic meddygon iau na phreifateiddio’r GIG drwy’r drws cefn. Rydym hefyd yn elwa ar bresgripsiynau am ddim a pharcio am ddim mewn ysbytai, ac mae camau breision wedi’u cymryd o ran gofal iechyd meddwl a thriniaethau canser – mae cyfraddau goroesi canser yn cynyddu ar raddfa gyflymach yng Nghymru erbyn hyn nag mewn unrhyw ran arall yn y DU.

Byddaf bob amser yn pwyso am fuddsoddiad yn ein GIG ac integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn llwyddiannus.

Cefnogi ein hysgolion a’n myfyrwyr

Fel y person cyntaf yn fy nheulu i fynd i’r Brifysgol, gwn sut y gall addysg roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bobl ifanc. Credaf yn gryf y dylai pawb gael cyfle.

Dyna pam rwy’n llwyr gefnogi buddsoddiad Llafur Cymru yn ein hysgolion, a brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd i ganiatáu i bobl ifanc gael y dechrau gorau mewn addysg. Diolch i Lafur yng Nghymru, nid oes angen i fyfyrwyr o Gymru dalu ÂŁ9000 o ffioedd prifysgol fel sy’n digwydd o dan y TorĂŻaid yn Lloegr.

Gwnaed cynnydd mawr yng Nghymru: mae cyfraddau llythrennedd a rhifedd yn codi yn ein hysgolion cynradd; mae’r canlyniadau TGAU gorau erioed gennym yng Nghymru, ac mae llai o bobl ifanc yn gadael yr ysgol heb gymwysterau.

O GASNEWYDD, I GASNEWYDD

Gwnaed cynnydd mawr yng Nghymru: mae cyfraddau llythrennedd a rhifedd yn codi yn ein hysgolion cynradd; mae’r canlyniadau TGAU gorau erioed gennym yng Nghymru, ac mae llai o bobl ifanc yn gadael yr ysgol heb gymwysterau.

Cefnogi adfywio yng Nghasnewydd

Un o fy mhrif flaenoriaethau yw gwthio i greu swyddi o ansawdd da yng Nghasnewydd.

Mae Casnewydd yn ddinas sy’n gadarn ar gynnydd, ac mae digwyddiadau fel Cwpan Ryder ac Uwchgynhadledd NATO wedi ein symud ymlaen i fod ar lwyfan y byd. Er gwaethaf toriadau’r TorĂŻaid o San Steffan, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi buddsoddi yng Nghasnewydd, gan gynnwys drwy’r cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid sy’n newid gwedd canol y ddinas. Yn yr un modd, cymerodd Cyngor Dinas Casnewydd, o dan arweiniad Llafur, risg dewr o ran ariannu a chyflani datblygiad newydd Friars Walk, sydd wedi dod yn ganolfan leol ar gyfer manwerthu a hamdden. Mae Casnewydd yn symud ymlaen, ac ni allwn adael i’r TorĂŻaid ein dal yn Ă´l.

Rwy’n gefnogol iawn o system Fetro arfaethedig De-ddwyrain Cymru. Byddaf yn parhau i wthio am well cysylltiadau trafnidiaeth integredig rhwng Casnewydd a’r rhanbarth yn ehangach, gan gynnwys cyswllt rheilffordd Casnewydd-Glyn Ebwy.

Rwyf hefyd yn angerddol am dai, ac wedi ymrwymo i roi hwb i’r cyflenwad o dai fforddiadwy a chymdeithasol o safon uchel yng Nghasnewydd a’r cyffiniau.

Ein hamgylchedd

Rwyf wastad wedi credu bod gennym gyfrifoldeb i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol. Dyna’r rheswm y dechreuais gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth y tro cyntaf – roeddwn yn 12 oed pan ymunais â Chyfeillion y Ddaear. Fel Aelod o’r Senedd rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru’n parhau i chwarae ei rhan mewn ymdrechion rhyngwladol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Fel rhan o hyn, rwy’n credu bod angen buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, ac rwy’n ymgyrchu dros Forlyn Llanw Casnewydd er mwyn defnyddio pŵer Aber Hafren a, thrwy hynny, roi hwb i’r economi leol.

Mae lles anifeiliaid hefyd yn fater sy’n agos at fy nghalon, ac rwy’n credu y dylai Cymru chwarae rhan flaenllaw wrth sicrhau safon bywyd o ansawdd uchel i anifeiliaid gwyllt, da byw ac anifeiliaid anwes domestig. Rwy’n gryf yn erbyn chwaraeon gwaed, ac yn llwyr gefnogi’r gwaharddiad ar hela llwynogod yng Nghymru a Lloegr. Byddaf yn ymladd yn erbyn camau’r TorĂŻaid i ddod â barbariaeth yn Ă´l i gefn gwlad Cymru.

Cadw mewn cysylltiad

Mae bod yn weladwy ac yn weithgar o fewn fy nghymuned yn hanfodol i mi. Mae’r ffordd rydych yn teimlo ynghylch byw yng Nghasnewydd yn wirioneddol bwysig i mi, yn ogystal â pha faterion sy’n eich pryderu, a’r hyn rydych chi am i’ch Aelod o’r Senedd sefyll drosto – felly byddwn wrth fy modd yn clywed gennych.

Y Cyfryngau Cymdeithasol

Rhowch 'Hoffi' a 'Dilyn' i mi ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y diweddaraf am ymgyrchoedd, y newyddion a buddsoddiadau diweddaraf yng Ngorllewin Casnewydd.

Load More

TANYSGRIFIWCH I GAEL DIWEDDARIADAU E-BOST
Y Diweddaraf
Tanysgrifiwch i fy nghylchlythyr e-bost i gael y newyddion diweddaraf am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru a'm hymgyrchoedd yng Ngorllewin Casnewydd.
Tanysgrifiwch
Rwy'n cytuno i'r Polisi Preifatrwydd ac i dderbyn diweddariadau e-bost.

CYSYLLTWCH Ă‚ MI

Fel eich Aelod o’r Senedd, gallaf helpu etholwyr gyda gwahanol faterion, fel addysg, yr amgylchedd, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, priffyrdd, trafnidiaeth, a thai.

Defnyddiwch y ffurflen gysylltu i gysylltu â mi. Cofiwch roi cymaint o fanylion â phosibl, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad a manylion llawn eich mater.

Rydw i hefyd yn cynnal cymorthfeydd wyneb yn wyneb ac ar-lein gan ddefnyddio Zoom/Microsoft Teams. Ym mhob sesiwn, byddaf ar gael i helpu gyda materion lleol. Cliciwch yma i drefnu apwyntiad.

CAPTCHA image

This helps us prevent spam, thank you.

TANYSGRIFIWCH I GAEL DIWEDDARIADAU E-BOST
Y Diweddaraf
Tanysgrifiwch i fy nghylchlythyr e-bost i gael y newyddion diweddaraf am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru a'm hymgyrchoedd yng Ngorllewin Casnewydd.
Tanysgrifiwch
Rwy'n cytuno i'r Polisi Preifatrwydd ac i dderbyn diweddariadau e-bost.
TANYSGRIFIWCH I GAEL DIWEDDARIADAU E-BOST
Y Diweddaraf
Tanysgrifiwch i fy nghylchlythyr e-bost i gael y newyddion diweddaraf am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru a'm hymgyrchoedd yng Ngorllewin Casnewydd.
Tanysgrifiwch
Rwy'n cytuno i'r Polisi Preifatrwydd ac i dderbyn diweddariadau e-bost.
SUBSCRIBE FOR EMAIL UPDATES
Keep Updated
Subscribe to my email newsletter to get the latest news on Welsh Government investment and my campaigns in Newport West.
Subscribe
I agree to the Privacy Policy and to receive email updates.

We use cookies to improve your overall site experience. This includes personalising content, analysing site usage, and to assist in our marketing efforts. By continuing to use our site, you accept our use of cookies and Privacy Policy.
Contact Details
Privacy Policy
Accept